BBC Radio Cymru:
Stiwdio gyda Nia Roberts
O'r dyddiau cynnar i ddenu perfformwyr o bedwar ban byd, dyma hanes Gŵyl Delynau Cymru.
Hunangofiant
Cawn ein tywys gan yr awdur - y delynores enwog a gwraig cyn-lywydd Plaid Cymru, Dafydd Wigley - o Faldwyn i Lanuwchllyn, Aberystwyth i Lundain, o Ferthyr i'r Bontnewydd yn Arfon, ac i lwyfannau'r byd, a hynny yn ei harddull fyrlymus ei hun. Mae ganddi stori werth ei hadrodd.
Croeso
Cariad angerddol at gerddoriaeth ac at y delyn a sicrhaodd fod Elinor Bennett yn cael ei chydnabod yn un o brif gerddorion Cymru. Fel telynores o’r radd flaenaf, adeiladodd yrfa lwyddiannus eithriadol ac mae ei hoffter o berfformio a dysgu yn sicrhau fod llawer o alw am ei gwasanaeth fel athrawes.
Bu Elinor Bennett yn amlwg ym myd perfformio cerddoriaeth ac addysg gerddorol am flynyddoedd. Ar ddechrau ei gyrfa, fe chwaraeodd Elinor gyda prif gerddorfeydd gwledydd Prydain - Cerddorfa Symffoni Llundain, Y Philharmonia a Cherddorfa Siamr Lloegr yn arbennig. Mae Elinor wedi cynnal cyngherddau, perfformiadau a Dosbarthiadau Meistr ar hyd a lled y byd, ac wedi cyhoeddi llu o recordiadau. Cafodd ei thrwytho yn nhraddodiadau cerddorol Cymru. Hi oedd prif symbylydd Canolfan Gerdd William Mathias a hi oedd y Cyfarwyddwr Artistig hyd at 2008. Bu’n Athro’r Delyn ar Ymweliad yn Academi Frenhinol Llundain ac Ysgol Gerdd y Guildhall yn Llundain. Darllen Mwy
Hunangofiant - Tannau Tynnion
Cawn ein tywys gan yr awdur - y delynores enwog a gwraig cyn-lywydd Plaid Cymru, Dafydd Wigley - o Faldwyn i Lanuwchllyn, Aberystwyth i Lundain, o Ferthyr i'r Bontnewydd yn Arfon, ac i lwyfannau'r byd, a hynny yn ei harddull fyrlymus ei hun. Mae ganddi stori werth ei hadrodd. Darllen Mwy