Hunangofiant
Mae hunangofiant a gyhoeddwyd ar gyfer y Nadolig hwn yn un y bydd ei gynnwys yn aros efo chi am amser hir wedi ichi gau ei glawr. Fel telynores adnabyddus ac fel gwraig i wleidydd, yn ogystal ag fel mam a nain, profodd Elinor Bennett Wigley hapusrwydd a llwyddiant eithriadol yn ei bywyd personol a phroffesiynol. Ond gwelwn yn y llyfr hefyd fod profiadau gwirioneddol ddirdynnol wedi dod i’w rhan hi a’i theulu a fyddai’n ddigon i lorio’r mwyafrif ohonom.
Yn ei hunangofiant Tannau Tynion – cyfrol ddiweddaraf Gwasg Gwynedd yng Nghyfres y Cewri – cawn ein tywys ganddi yn ei harddull fyrlymus ei hun o Faldwyn i Lanuwchllyn, o Aberystwyth i Lundain, o Ferthyr i’r Bontnewydd yn Arfon, ac i lwyfannau’r byd.
Mae edrych yn ôl dros fywyd Elinor yn tanio atgofion am ddigwyddiadau allweddol yn hanes Cymru, yn gyhoeddus ac yn breifat – o eira mawr 1947 a achosodd i’w thad adael y fferm ger Llanidloes, i’r frwydr ofer i geisio arbed Cwm Tryweryn pan oedd y teulu’n byw yn y tŷ a adeiladwyd gan O. M. Edwards yn Llanuwchllyn, ac Elinor yn un o’r rhai oedd yn darlledu’n anghyfreithlon dros Blaid Cymru a hithau yn ei harddegau.
Roedd bywyd diwylliannol Llanuwchllyn yn cynnig pob math o gyfleon ond yna, gyda dyfodiad teledu yn y pumdegau, dylanwadwyd yn fawr arni gan raglenni cerddorol a gyflwynid gan y telynor Osian Ellis. Roedd o’n arwr mawr iddi yn ei harddegau ac roedd hithau’n ceisio gwneud popeth o fewn ei gallu i fod cystal â fo. Bu Osian Ellis yn ei beirniadu yn yr Eisteddfod Genedlaethol sawl tro, ac yna daeth yn athro arni gan ei helpu gyda’i gyrfa yn ddiweddarach.
Efallai y bydd yn syndod deall cymaint o ddylanwad a gafodd byw yn Llundain ar fywyd merch o gefn gwlad Cymru. Yno yn 1949 y prynodd ei thad ei thelyn gyntaf iddi, a’i chludo yn ôl i Lanuwchllyn ar y trên. Yno hefyd y bu’n astudio yn yr Academi Gerdd Frenhinol – a chyfarfod Dafydd Wigley am y tro cyntaf! Yn Llundain y prynon nhw eu cartref cyntaf, lle bu Elinor yn chwarae gyda rhai o gerddorfeydd mwya’r byd, a hithau’n cynnal ei chyngerdd ‘debut’ yn Neuadd Wigmore yn 1970.
Bu raid gadael Llundain a symud yn ôl i Gymru ar ddechrau’r saithdegau pan benodwyd Dafydd yn un o reolwyr cwmni Hoover ym Merthyr. Tyfodd cariad Elinor tuag at yr ardal a’i phobl, a bu’n hapus iawn yno. Ond ar ddiwedd eu cyfnod ym Merthyr, cafodd y teulu wybod am afiechyd etifeddol eu dau fab, Alun a Geraint, a gymrodd fywydau’r ddau yn ifanc iawn. Trasiedi oedd hon a drodd fywyd y teulu â’i ben i waered.
Erbyn heddiw caiff ei hadnabod fel Elinor Bennett, ond nid felly y bu erioed! Yn dilyn ei phriodas â Dafydd Wigley, awgrymodd ei hasiant yn Llundain fod ei henw teuluol, Bennett Owen, yn rhy hir i’r byd proffesiynol – ond na ddylai chwaith gymryd enw teuluol ei gŵr! O’r dydd hwnnw ymlaen, mabwysiadodd hithau ddau bersona – Elinor Bennett y cerddor a Mrs Wigley'r wraig. Mae’r yrfa gerddorol eithriadol o lwyddiannus, a’r bywyd priodasol a theuluol, wedi cyd-fyw’n hapus am dros ddeugain mlynedd. Dros y cyfnod hwnnw dysgodd Elinor lawer iawn o delynorion ifanc – gan gynnwys Catrin Finch, ei merch-yng-nghyfraith.
Yn y llyfr hefyd cawn ei barn bendant am sawl peth yn y Gymru gyfoes – o fyd y cyfryngau i wleidyddion a gwleidyddiaeth!
Dywedodd Elinor, un o sylfaenwyr Canolfan Gerdd William Mathias yng Nghaernarfon: ‘Mae ysgrifennu’r llyfr wedi bod yn broses gathartig iawn sydd wedi gwneud i mi edrych ar fywyd mewn ffordd gadarnhaol. Mae wedi f’atgoffa fod bywyd yn fraint, ar waetha’r cyfnodau anodd. Roedd mynd yn ôl yn fy nychymyg i fywydau aelodau o’m teulu yn y gorffennol yn ddifyr iawn, a daeth ton ar ôl ton o atgofion yn ôl i mi. Ar ôl misoedd o ysgrifennu ac o hel atgofion, mae hi’n amser rŵan i edrych ymlaen i’r dyfodol unwaith eto a wynebu’r her nesaf – a chael hwyl efo’r plant a’r wyrion!’
Tannau Tynion
Elinor Bennett Wigley
Gwasg Gwynedd
ISBN: 9780860742777
Amazon